Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


05 Pentref Redwick


05 ardal gymeriad pentref Redwick: yr anheddiad cnewyllol sydd wedi'i gadw yn y cyflwr gorau ar y Gwastadedd. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 013)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'n debyg bod y pentref yn dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg/y ddeuddegfed ganrif, ond am ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw, gwelir amrywiaeth eang o gyfnodau yn yr adeiladau.

Mae casgliad ardderchog o ffynonellau dogfennol, gan gynnwys nifer o arolygon manwl o ddiwedd y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae plac ar wal yr eglwys yn coffáu llifogydd mawr 1606 pan fu farw miloedd lawer o bobl ac anifeiliaid: gellir gweld enghreifftiau eraill yn eglwys Allteuryn ac eglwys Llanbedr.

Yn y caban aros bysiau ger yr eglwys arddangosir casgliad o hysbysiadau o eiddo Comisiynwyr y Carthffosydd yn ymwneud â'r system ddraenio, ynghyd â rhai cerrig a osodwyd ar hyd y ffosydd i ddiffinio'r lleiniau yr oedd tenantiaid unigol yn gyfrifol am eu cynnal a'u cadw.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Pentref cnewyllol a grëwyd ar groesffyrdd ac eglwys ganoloesol, adeiladau traddodiadol (ôl-ganoloesol) gan gynnwys ffermydd gweithredol, gwrthgloddiau, perllannoedd traddodiadol, tiroedd comin ymyl ffordd, nodweddion draenio (ffosydd draenio, arwyddion cynnal a chadw)

Mae'r pentref wrth groesffordd bwysig yn rhan ddeheuol ganolog y plwyf, ar y rhan arfordirol uwch o Wastadedd Caldicot, ac o boptu iddo mae ardal 6.

Redwick yw'r pentref cnewyllol mwyaf ar y Gwastadeddau, a'i ganolbwynt yn fan nodol yn y rhwydwaith ffyrdd. Mae sawl darn bach o dir comin ymyl ffordd wedi goroesi. Ar un ohonynt mae plac yn coffáu deddf cau tiroedd comin 1850.

Ceir amrywiaeth eang o adeiladau gan gynnwys yr eglwys ganoloesol, a rhai bythynnod a ffermdai ardderchog yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Ceir sawl fferm weithredol. Mae cloddwaith i'r de o'r pentref yn ymwneud ag adeiladau a adawyd yn wag ac mae ganddynt lawer o botensial archeolegol.

Mae sawl perllan nodedig iawn wedi goroesi, ac mae gwasg afalau wedi'i chadw mewn caban aros bysiau ger yr eglwys.

Redwick yw'r pentref cnewyllol canoloesol sydd wedi'i chadw orau ar y Gwastadeddau ac erys mewn cyflwr da iawn ar y cyfan heb braidd ddim adeiladau modern. Ceir amrywiaeth o adeiladau dymunol a nodweddion tirwedd eraill gan gynnwys perllannoedd, sy'n golygu ei fod yn gydlynus iawn a chanddo werth grwp uchel. Am fod yno nifer o ffermydd gweithredol erys ei gyfanrwydd fel pentref amaethyddol gweithredol i raddau helaeth.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk